Ymateb y Llywodraeth i’r adroddiad drafft ar gyfer y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Reoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Darpariaethau Atodol) 2019

 

Pwyntiau a godwyd o dan Reol Sefydlog 21.3(ii)

 

 

1.    Deddf Addysg 1996 (‘Deddf 1996’) yw’r darn cyfredol o ddeddfwriaeth sydd mewn grym ac sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig yng Nghymru. O dan Ddeddf 1996, mae’r swyddogaethau perthnasol o benodi Llywydd a chadeiryddion cyfreithiol Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (‘TAAAC’) wedi eu breinio yn yr Arglwydd Ganghellor yn unig.

 

2.    Cyflwynodd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (‘Deddf 2018’) swyddogaethau’r Arglwydd Brif Ustus mewn cysylltiad â’r swyddogaethau penodi tebyg mewn perthynas â Thribiwnlys Addysg Cymru (sy’n barhad o TAAAC, ond sydd wedi ei ailenwi gan Ddeddf 2018) er mwyn sicrhau nad oedd y swyddogaethau hynny wedi eu breinio’n gyfan gwbl ac yn ddilyffethair yn nwylo’r weithrediaeth. (Nid yw adran 91 o Ddeddf 2018 mewn grym eto.)

 

3.    Tua diwedd hynt Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg, newidiodd y gyfraith a oedd yn effeithio ar TAAAC yn hyn o beth yn rhinwedd Gorchymyn Penodiadau Barnwrol a Disgyblaeth (Diwygio ac Ychwanegu Swyddi) 2017 a wnaed gan Lywodraeth y DU. Daeth y Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2017. Nid oedd y Gorchymyn hwnnw yn gallu diwygio Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg, wrth gwrs. Gan fod y broses o ddethol y Llywydd a’r Cadeiryddion Cyfreithiol wedi ei dwyn o fewn gweithdrefnau’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol, drwy’r Gorchymyn, ystyrir nad oes angen y rolau ychwanegol yn adran 91 o Ddeddf 2018 oherwydd y rôl benodol sydd wedi ei chynnwys yn Neddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 i sicrhau bod yr Arglwydd Ganghellor yn cynnal annibyniaeth farnwrol.

 

4.    Effaith Gorchymyn 2017 yw dwyn swyddogaethau’r Arglwydd Ganghellor o benodi Llywydd a chadeiryddion cyfreithiol TAAAC o fewn proses ffurfiol y Comisiwn Penodiadau Barnwrol ar gyfer penodi aelodau’r farnwriaeth (drwy ychwanegu’r swyddogaethau hynny yn y lleoedd perthnasol yn Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005) am y tro cyntaf. Effaith Gorchymyn 2017, wedi ei ddarllen ar y cyd â Rheoliadau Penodiadau Barnwrol 2013, yw bod rhaid i’r awdurdod penodi (yng ngham 3) ddethol. Dadleuir y byddai cadw rôl ar gyfer yr Arglwydd Brif Ustus wrth benodi’r Llywydd yn peri anawsterau gweithredol gan y byddai rhaid i ddau berson gytuno ag argymhelliad y Comisiwn Penodiadau Barnwrol i benodi person yn Llywydd. (Mae’r un peth yn wir mewn perthynas â phenodi’r aelodau cyfreithiol). Er enghraifft, yn rhinwedd y Gorchymyn a Rheoliadau Penodiadau Barnwrol 2013 (rheoliadau 32 i 34), daw pwynt yn y broses benodi pan fydd rhaid i’r awdurdod penodi (yr Arglwydd Ganghellor yn yr achos hwn) benodi person o blith y rhai a ddetholwyd gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol. Effaith y darpariaethau perthnasol yn Neddf 2018 yw na all yr Arglwydd Ganghellor benodi person oni bai bod yr Arglwydd Brif Ustus yn cytuno. Er ei bod yn annhebygol iawn y bydd anghytundeb yn dilyn proses y Comisiwn Penodiadau Barnwrol, mae’r ffaith bod y Bil yn creu’r posibilrwydd hwn yn rhoi coel ar y pryder hwn. Cydnabyddir y gallai hyn effeithio ar y gallu i weithredu’r system.

 

5.    Ystyrir bod y newidiadau a gyflwynwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn y Gorchymyn yn cyflawni’r un diben (diogelu annibyniaeth farnwrol) â’r gofynion cytundeb sydd yn adran 91(3) a (4) o Ddeddf 2018 ar hyn o bryd, yn enwedig o’u hystyried ar y cyd â dyletswydd yr Arglwydd Ganghellor yn adran 3 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005. Yn ogystal, effaith y Gorchymyn yw ‘normaleiddio’ y weithdrefn penodiadau barnwrol ar gyfer TAAAC (a chymhwysir hyn hefyd i benodiadau’r Tribiwnlys Addysg) drwy gysoni’r broses ar gyfer y penodiadau hynny â phenodiadau tebyg eraill a wneir gan yr Arglwydd Ganghellor.

 

6.    Felly, o ran penodi Llywydd a chadeiryddion cyfreithiol TAAAC yn dilyn Gorchymyn 2017, yr hyn sydd ar ôl gennym yw bod y penodiadau hynny yn cael eu cysoni â’r broses arferol ar gyfer gwneud penodiadau barnwrol. Ar y llaw arall, o ran y penodiadau i’r un swyddi o dan Ddeddf 2018, nid yw’r weithdrefn yn gyson â’r broses arferol honno. Rydym yn meddwl mai i’r darpariaethau hynny yn Neddf 2018 sy’n creu swyddi Llywydd a chadeiryddion cyfreithiol y Tribiwnlys Addysg y mae’r darpariaethau y bwriadwn eu gwneud yn y rheoliadau drafft presennol yn atodol.

 

7.    Er mwyn cysoni’r darpariaethau perthnasol yn Neddf 2018 â’r rhai sydd bellach yn gymwys i TAAAC, mae angen inni newid y cyfeiriad at TAAAC yn Atodlen 14 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 a dileu swyddogaethau’r Arglwydd Brif Ustus.

 

8.    Mae adrannau 97 a 99 o Ddeddf 2018 yn rhag-weld yn glir y caiff rheoliadau o dan adran 97 ddiwygio neu ddiddymu darpariaeth yn y Ddeddf ei hun.

 

9.    O ran diffiniadau geiriadur, mae darpariaeth yn “atodol” (“supplementary”) os yw’n cwblhau rhywbeth neu’n ychwanegu ato. Mae darpariaeth yn “hwylus” (“expedient”) os yw’n gyfleus neu’n ymarferol.

 

10.O ystyried yr amcan sy’n sail i swyddogaethau’r Arglwydd Brif Ustus yn adran 91(3) a (4) o Ddeddf 2018, mae’r cwestiwn yn codi, yng ngoleuni’r newid yn y gyfraith sy’n gymwys yn hyn o beth i TAAAC, o ran a yw’n gyfleus ychwanegu at y darpariaethau yn Neddf 2018 (gan gynnwys drwy ddiwygio neu ddiddymu darpariaethau) sy’n creu swyddi’r Llywydd a’r cadeirydd cyfreithiol drwy ‘normaleiddio’ y darpariaethau penodi yn adran 91(3) a (4) i’w cysoni â’r gyfraith sydd bellach yn gymwys i TAAAC yn hyn o beth.

 

11.Ein barn yw y gellir gwneud rheoliadau o dan adran 97 o Ddeddf 2018 sy’n cael yr effaith honno.

 

12.Mae’r adroddiad drafft yn nodi o dan 1.4 fod y Pwyllgor yn pryderu bod “pwerau atodol yn cael eu defnyddio i wrthdroi adrannau pwysig o Ddeddf Cynulliad.”

 

13.Ni chytunir mai effaith y rheoliadau yw gwrthdroi’r adran. Byddai “gwrthdroi” yn awgrymu mai diben y diwygiad yw rhoi diben ac effaith gwbl groes i’r adran. Diben ac effaith adran 91 o Ddeddf 2018 oedd sicrhau bod proses annibynnol yn ei lle i benodi llywydd ac aelodau eraill y tribiwnlys. Byddai’r adran 91 wedi ei diwygio yn cyflawni’r un diben.

 

14.O ran ein diwygiadau arfaethedig, nid yw hyn yn wir pan fo pŵer yn cael ei estyn, diffiniad yn cael ei ddiwygio neu weithrediad darpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol yn cael ei eithrio. Y mater yn yr achos hwn, yng ngoleuni’r newid yn y gyfraith sy’n gymwys i TAAAC, yw a ellir cyflawni’r amcan sy’n sail i’r swyddogaethau cydsynio yn adran 91(3) a (4) o Ddeddf 2018 mewn perthynas â’r Tribiwnlys Addysg mewn ffordd wahanol sy’n gyson (a) â’r gyfraith sydd bellach yn gymwys i TAAAC a (b) â phenodiadau eraill yr Arglwydd Ganghellor. Nid yw hyn yn wir pan fo’r cynnig yn newid sylfaenol (neu newid croes) i gynllun y ddeddfwriaeth sylfaenol.

 

15.Ystyriwyd nifer o opsiynau ar y pryd ar gyfer ymdrin â’r mater hwn ac ystyriodd Llywodraeth Cymru mai hwn oedd yr opsiwn gorau o dan yr amgylchiadau a amlinellir uchod. Fel y mae’r adroddiad drafft yn ei nodi, yn y ddadl Cyfnod 4 ar Fil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg, hysbyswyd yr Aelodau am yr angen i wneud mân ddiwygiad i adran 91 o’r Bil pan fyddai’n dod yn Ddeddf. Pasiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru y Bil ar y sail honno. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn cael cyfle i drafod y rheoliadau.